Create: Arts Council of Wales project grant November 2024 – November 2025 *Cymraeg ar y gwaelod
In 2024 I was awarded a Create grant from the Arts Council of Wales. Through a self-directed programme of community workshop delivery, training, mentoring, networking, and research, I’ve taken time to develop my skills and explore how my creative practice can engage more deeply with the interconnected water systems – from springs and estuaries, to the ocean.

Exploring the interconnectivity of our landscapes also has a biographical dimension for me. I was brought up inland on the southern uplands of Hiraethog, which sits on the edge of the Migneint in central North Wales. Yet as a family, we always held a deep love for the sea. We would often travel to Pen Llŷn at weekends or during holidays, studying weather charts in search of surf. Much of my professional work in recent years has been ocean-themed, and this project has become a process of reconnecting inland – tracing both ecological and deep rooted pathways that link back to the ocean.


A central hub and main collaborator for this project has been Oriel Machno, a community arts space in Penmachno. Many of my workshops have taken place there, alongside a summer artist residency. Over the past year, I have got to know the Penmachno community, introducing creative ways to explore local river networks and delving into river-based stories shared by residents.



Source to Sea concept: There are countless ways to understand how our oceans connect to inland river systems. I began by exploring migrating fish such as salmon and eels, whose vast journeys link freshwater and marine environments. However, the area of research that truly captured my imagination – and has since become the focus of my community workshops and developing a picture book – is how trees influence ocean health.
I first encountered this connection during an arts residency at Pontio in October 2024, at the beginning of my project. Since then, I’ve discovered a growing body of articles and research papers investigating this fascinating relationship between forests and the sea. Here is a quote from an article I read recently >>>
“Japanese fishers have long observed what scientists are now confirming: healthy forests upstream contribute to abundant fish populations downstream. This relationship has inspired a movement of community reforestation known as Uotsuki-rin, or “Fish Forests”. Like a tea bag slowly releasing nourishment, forests infuse the land and gradually add nutrients to rivers. But when forests are degraded or removed, this process becomes unbalanced. Nutrients flow into waterways too quickly and in the wrong proportions, leading to “ocean malnutrition”: algal blooms, poor water quality, and oxygen-depleted zones that harm marine life. “
Community workshops: Building on this forest-to-ocean connection, I designed a series of community workshops with this theme at their core. During my residency I delivered creative workshops exploring river mapping, weaving with grasses found on the river bank, and boat racing. I facilitated a two part workshop with Penmachno Primary School on this theme too, creating a river map of local species and visiting the Wild Oyster Project at Conwy Marina to deepen our understanding of the source to sea connection.
I took this theme elsewhere in Wales, collaborating with Kirsti Davies – a community artist based in Machynlleth. Together we delivered another two special workshops inviting participants to explore these ideas through a co-created land art piece on Ynyslas estuary, and then printmaking in Borth with an elderly group in the community hub.



Training and mentoring Some of the work I do in the community can be described as “socially engaged practice”. It requires connection, communication, and perseverance for ideas to be fully realised. Through critical conversations with artists Manon Awst, Kristin Luke, and Jennie Syson, I have been able to spend time reflecting on and refining this aspect of my professional work.
Illustration is a multi-faceted profession, and the Create grant has allowed me to expand my knowledge and understanding of picture books — an artform in itself that requires a distinct way of seeing and reading. I have been able to research and conceptualise my own ideas, guided by tuition from my MA tutor, Hannah Waldron, lecturer at Falmouth University.
Another aspect of my illustration practice is mural art. As I progress in my career and observe the growing influence of AI in the industry, I feel more certain about the value of hands-on, human-led creative practice. I have therefore spent time developing this area of my work, particularly lettering, which is an artform I have enjoyed cultivating over the years. In January, I undertook a five-day introduction to signwriting course with Joby Carter, which has enriched both my mural work and my broader visual practice. I’m really excited to bring this more into my work and pitch for more commissions in this industry, blending both my love of painting large scale and offering the heritage skill of signwriting to clients
Research as arts practice: Throughout this project, I’ve become increasingly fascinated by water catchment areas, or what’s known as a water “bioregion” — the vast network of springs, rivers, estuaries, wetlands, and intertidal zones that together shape our ecosystems. Being able to invest time and energy into research is an integral part of my practice, and it is something I strive to bring into all my work. It has been an incredible journey to have the space to read articles and books, and engage in conversations with local experts and ecologists on this theme. During my visit to the Wild Oyster Project, Rhianna, a marine biologist and researcher, introduced me to a term I will be investigating further: “seascape ecology.” It is described as “an emerging, pattern-oriented and integrative science conceptually linked to landscape ecology” – a perspective that perfectly encapsulates the spirit of this project, connecting the rhythms of land, river, and sea into one continuous, living system.
CYMRAEG:
Cronfa Creu: Grant Prosiect Cyngor Celfyddydau Cymru
Yn 2024, dyfarnwyd grant Cronfa Creu i mi gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Trwy raglen hunangyfeiriedig o gyflwyno gweithdai cymunedol, hyfforddiant, mentora, rhwydweithio ac ymchwil, cymerais amser i ddatblygu fy sgiliau ac archwilio sut y gall fy ymarfer creadigol ymgysylltu’n ddyfnach â systemau dŵr cydgysylltiedig – o ffynhonnau ac aberoedd i’r môr.
Mae archwilio cydgysylltedd ein tirweddau hefyd yn cynnwys elfen fywgraffiadol i mi. Cefais fy magu yn fewndirol ar ucheldiroedd deheuol Hiraethog, sydd wedi’i leoli ar ymyl y Migneint yng nghanol Gogledd Cymru. Ac eto fel teulu, roedd gennym gariad dwfn at y môr erioed. Byddem yn aml yn teithio i Ben Llŷn ar benwythnosau neu yn ystod gwyliau, gan astudio siartiau tywydd i chwilio am donnau i syrffio. Mae llawer o fy ngwaith proffesiynol yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn ymwneud â’r môr, ac mae’r prosiect hwn wedi dod yn broses o ailgysylltu â’r mewndir – gan olrhain llwybrau ecolegol â gwreiddiau dwfn sy’n cysylltu’n ôl â’r môr.
Canolfan ganolog a phrif gydweithiwr ar gyfer y prosiect hwn fu Oriel Machno, gofod celfyddydau cymunedol ym Mhenmachno. Mae llawer o fy ngweithdai wedi digwydd yno, ochr yn ochr â phreswyliad artist yno dros yr hâf. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi dod i adnabod cymuned Penmachno, gan gyflwyno ffyrdd creadigol o archwilio rhwydweithiau afonydd lleol ac ymchwilio i straeon sy’n seiliedig ar afonydd a rennir gan drigolion.
O’r Tarddiad I’r Tonnau: Mae yna ffyrdd di-ri o ddeall sut mae ein cefnforoedd yn cysylltu â systemau afonydd mewndirol. Dechreuais trwy archwilio pysgod mudol fel eogiaid a llyswennod, y mae eu teithiau helaeth yn cysylltu amgylcheddau dŵr croyw a morol. Fodd bynnag, y maes ymchwil a ddaliodd fy nychymyg mewn gwirionedd – ac sydd ers hynny wedi dod yn ffocws fy ngweithdai cymunedol a datblygu llyfr lluniau – yw sut mae coed yn dylanwadu ar iechyd y cefnforoedd.
Dois ar draws y cysylltiad hwn gyntaf yn ystod preswyliad celfyddydau yn Pontio ym mis Hydref 2024, ar ddechrau fy mhrosiect. Ers hynny, rydw i wedi darganfod corff cynyddol o erthyglau a phapurau ymchwil sy’n ymchwilio’r berthynas ddiddorol yma rhwng coedwigoedd a’r môr. Dyma ddyfyniad o erthygl a ddarllenais yn ddiweddar https://www.rainforestrecovery.org.uk/news/oceans-and-forests-a-new-discovery >>>
“Mae pysgotwyr Japaneaidd wedi sylwi ers tro byd ar yr hyn y mae gwyddonwyr bellach yn ei gadarnhau: bod coedwigoedd iach i fyny’r afon yn cyfrannu at boblogaethau toreithiog o bysgod i lawr yr afon. Mae’r berthynas hon wedi ysbrydoli mudiad o ailgoedwigo cymunedol o’r enw Uotsuki-rin, neu “Goedwigoedd Pysgod”. Fel bag tê sy’n rhyddhau maeth yn araf, mae coedwigoedd yn trwytho’r tir ac yn ychwanegu maetholion yn raddol at afonydd. Ond pan fydd coedwigoedd yn cael eu diraddio neu eu tynnu, mae’r broses hon yn mynd yn anghytbwys. Mae maetholion yn llifo i ddyfrffyrdd yn rhy gyflym ac yn y cyfrannau anghywir, gan arwain at “gamfaethiant cefnforol”: blodau algâu, ansawdd dŵr gwael, a pharthau sydd wedi’u disbyddu o ocsigen sy’n niweidio bywyd morol.”
Gweithdai cymunedol: Gan adeiladu ar y cysylltiad hwn rhwng y goedwig a’r cefnfor, cynlluniais gyfres o weithdai cymunedol gyda’r thema yma yn ganolog iddynt. Yn ystod fy nghyfnod preswyl, cynhaliais weithdai creadigol yn archwilio mapio afonydd, gwehyddu â glaswelltau a geir ar lan yr afon, a rasio cychod. Hwylusais weithdy dau ran gydag Ysgol Gynradd Penmachno ar y thema, gan greu map afon o rywogaethau lleol ac ymweld â Wild Oyster Project ym Marina Conwy i ddyfnhau ein dealltwriaeth o’r cysylltiad rhwng y tarddiad afon a’r môr.
Cymerais y thema hon i lefydd eraill yng Nghymru, gan gydweithio â Kirsti Davies – artist cymunedol sydd wedi’i lleoli ym Machynlleth. Gyda’n gilydd, cynhaliom ddau weithdy arbennig arall yn gwahodd cyfranogwyr i archwilio’r syniadau hyn trwy ddarn celf tir a grëwyd ar y cyd ar aber Ynyslas, ac yna chreu printiau yn y Borth gyda grŵp o bobl hŷn yn yr hwb cymunedol.
Hyfforddiant a mentora Gellir disgrifio llawer o’r gwaith rwy’n ei wneud yn y gymuned fel “ymarfer sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol”. Mae’n gofyn am gysylltiad, cyfathrebu a dyfalbarhad er mwyn i syniadau gael eu gwireddu’n llawn. Trwy sgyrsiau beirniadol gyda’r artistiaid Manon Awst, Kristin Luke, a Jennie Syson, rwyf wedi gallu treulio amser yn myfyrio a mireinio yr agwedd hon o fy ngwaith proffesiynol.
Mae darlunio yn broffesiwn amlochrog, ac mae grant Creu wedi caniatáu i mi ehangu fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o lyfrau lluniau — ffurf gelf ynddi’i hun sy’n gofyn am ffordd benodol o weld a darllen. Rwyf wedi gallu ymchwilio a chysyniadoli fy syniadau fy hun, dan arweiniad hyfforddiant gan fy nhiwtor MA, Hannah Waldron, darlithydd ym Mhrifysgol Falmouth.
Agwedd arall ar fy ymarfer darlunio yw celfyddyd murluniau. Wrth i mi symud ymlaen yn fy ngyrfa a gweld dylanwad cynyddol deallusrwydd artiffisial yn y diwydiant, rwy’n teimlo’n fwy sicr ynghylch gwerth ymarfer creadigol ymarferol, dan arweiniad dynol. Felly, rwyf wedi treulio amser yn datblygu’r maes hwn o fy ngwaith, yn enwedig llythrennu, sef ffurf gelf rwyf wedi mwynhau ei meithrin dros y blynyddoedd. Ym mis Ionawr, ymgymerais â chwrs cyflwyniad pum niwrnod i ysgrifennu arwyddion gyda Joby Carter, sydd wedi cyfoethogi fy ngwaith murluniau a’m hymarfer gweledol ehangach. Rwy’n gyffrous iawn i ddod â hyn yn fwy i mewn i’m gwaith a cheisio am fwy o gomisiynau yn y diwydiant hwn, gan gyfuno fy nghariad at beintio ar raddfa fawr a chynnig sgil etifeddol ysgrifennu arwyddion i gleientiaid.
Ymchwil fel ymarfer celfyddydol: Drwy gydol y prosiect hwn, mae fy niddordeb mewn dalgylchoedd dal dŵr, neu’r hyn a elwir yn “fioranbarth” dŵr wedi cynyddu’n sylweddol – y rhwydwaith helaeth o ffynhonnau, afonydd, aberoedd, gwlyptiroedd, a pharthau rhwng llanw sydd gyda’i gilydd yn llunio ein hecosystemau. Mae gallu buddsoddi amser ac egni mewn ymchwil yn rhan annatod o fy ymarfer, ac mae’n rhywbeth rwy’n ymdrechu i’w gynnwys yn fy holl waith. Mae wedi bod yn daith ac yn gyfle anhygoel cael yr amser i ddarllen erthyglau a llyfrau, a chymryd rhan mewn sgyrsiau gydag arbenigwyr lleol ac ecolegwyr ar y thema hon.
Yn ystod fy ymweliad â Wild Oyster Project, cyflwynodd Rhianna, biolegydd ac ymchwilydd morol, derm i mi y byddaf yn ei ymchwilio ymhellach: “ecoleg tirwedd y môr.” Fe’i disgrifir fel “gwyddoniaeth sy’n dod i’r amlwg, sy’n canolbwyntio ar batrymau ac sy’n integreiddiol ac yn gysylltiedig yn gysyniadol ag ecoleg tirwedd” – persbectif sy’n crynhoi ysbryd y prosiect hwn yn berffaith, gan gysylltu rhythmau tir, afon a môr yn un system fyw barhaus.